The Hollies Daycare Unveil Their Newly Refurbished Rooms!

2 mins
Feb 18, 2025

Mae Meithrinfa Gofal Dydd The Hollies yn falch o agor ei drysau i’r cyhoedd am y tro cyntaf ar ôl cyfnod o adnewyddu. I ddathlu’r achlysur, fe gynhaliodd yr Hollies Ddiwrnod Agored arbennig i rieni, gwesteion a chydweithwyr er mwyn rhoi cyfle i bawb gael gweld y feithrinfa ar ei newydd wedd

Roedd y diwrnod agored, Gwlad Stori yn ddigwyddiad a oedd yn dathlu llythrennedd y blynyddoedd cynnar a Diwrnod y Llyfr. Cafodd y plant gyfle i weld eu hoff straeon yn dod yn fyw drwy gymryd rhan mewn sesiynau adrodd stori a gweithgareddau hwylus, yn ogystal â chael cyfle i chwarae’n greadigol. Yn ystod y diwrnod, fe gynhaliwyd seremoni torri rhuban gyda’r Gwir Anrhydeddus, Arglwydd Faer Caerdydd, ac fe gafodd pawb gyfle i weld y stafelloedd tlws ar eu newydd wedd, yn ogystal â chael golwg ar yr adnoddau arbennig newydd. Roedd y digwyddiad yn un hapus, ac fe gafwyd digonedd o gyffro a chyfle i chwerthin.

“Roedd hi’n hyfryd cael dathlu agoriad ein ’stafelloedd newydd gyda ffrindiau hen a newydd. Mae’r ’stafelloedd newydd yn dlws iawn, ac rydym ni’n edrych ymlaen yn arw at gael dal ati i feithrin meddyliau ifanc yn y safle arbennig hwn.” ~ Tracey Jones, Rheolwr Meithrinfa Gofal Dydd The Hollies.

Sefydlwyd Meithrinfa Gofal Dydd The Hollies ym mis Mawrth 2002, ac mae ganddi enw da yng Nghaerdydd am ddarparu gofal plant o’r ansawdd uchaf. Drwy ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg a Saesneg, mae Meithrinfa Gofal Dydd The Hollies yn falch o dreftadaeth gyfoethog Cymru ac yn rhoi croeso cynnes mewn awyrgylch gartrefol i blant sy’n siarad Cymraeg gartref. Mae’r tîm ymroddedig, yr adnoddau arbennig, a’r ardd newydd sbon yno yn gwneud Meithrinfa Gofal Dydd The Hollies yn lleoliad perffaith i blant bach ddysgu, tyfu a chwarae. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cael taith o’r feithrinfa, cliciwch yma. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am Feithrinfa Gofal Dydd The Hollies, , cliciwch yma. Os ydych chi eisiau cysylltu â’r feithrinfa’n uniongyrchol gallwch chi ffonio: 02920 378 177 neu anfon e-bost at hollies@happydaysnurseries.com.

——————————————————————————————————————

The Hollies Daycare Nursery in Cardiff is thrilled to have opened it’s newly refurbished doors to the public for the first time. To celebrate the occasion, The Hollies held a special Open Day event for parents, guests, and colleagues, which included the much-anticipated unveiling of their brand new indoor spaces

The exclusive Open Day, Story Land celebrated early years literacy and World Book Day, bringing beloved stories to life through engaging activities, interactive storytelling, and creative play. The day featured a ribbon-cutting ceremony with The Rt. Hon. The Lord Mayor of Cardiff, and a first look at the beautifully renovated rooms and fantastic new resources. The celebration was a happy occasion, filled with laughter and excitement.

“We were delighted to celebrate the unveiling of our newly refurbished rooms with new and old faces. The beautifully refurbished interior space is beautiful, and we can’t wait to continue nurturing young minds in this exceptional space.” ~ Tracey Jones, Manager at The Hollies Daycare Nursery.

The Hollies Daycare Nursery was established in March 2002 and has an excellent reputation amongst nurseries in Cardiff for providing first-class quality care. With a focus on both English and Welsh, The Hollies Daycare Nursery celebrates the rich cultural heritage of Wales and provides a welcoming environment for children who speak Welsh at home. Their dedicated team, excellent facilities, and a beautiful new garden space make The Hollies Daycare Nursery the perfect place for young children to learn, grow, and play.

If you’re interested in booking a tour at the nursery, please click here. If you would like to find out more information on The Hollies Daycare Nursery, click here. Alternatively, if you would like to get in touch with the nursery direct, please phone: 02920 378 177 or email: hollies@happydaysnurseries.com.